Awstralia
10.19M
Категория: РелигияРелигия
Похожие презентации:

Pasg o amgylch y byd

1.

2. Awstralia

Yn Awstralia mae 'bilby' Pasg yn
hytrach na cwningen y Pasg.
Mae 'bilbies' siocled yn cael eu bwyta
yn hytrach na cwningod siocled.
Mae cwningod yn cael eu hystyried fel
plâu yn Awstralia.

3.

Gwlad Pŵyl
Ar Ddydd Llun y Pasg mae bechgyn yn
crwydro o amgylch y strydoedd ac yn
rhoi ychydig ddŵr neu bersawr ar ben
merched.
Mae basgedi o fwyd yn cael eu danfon
i'r eglwys i gael eu bendithio.
Ar Ddydd Sul y Pasg mae wyau, a
chacen siâp oen i symboleiddio Crist yn
cael eu bwyta.
Maent hefyd yn peintio wyau Pasg a
elwir yn 'pisanki' sy'n cael eu gwneud
â llaw a'u phaentio gyda symbolau
traddodiadol ffrwythlondeb a'r
gwanwyn.
Photo courtesy of praktyczny.przewodnik (@flickr.com) - granted under creative commons licence – attribution

4.

Yr Alban
Yn yr Alban maent yn cynnal
cystadlaethau rholio wyau.
Mae wyau yn cael eu berwi a'u paentio.
Mae plant wedyn yn rholio wyau i
lawr bryniau glaswellt. Yr wy sy'n
rholio'r pellaf sy'n ennill.
Mae rholio'r wy yn symbol o rolio
carreg bedd Iesu.

5.

Bermwda
Ym Mermwda mae pobl yn hedfan
barcutiaid i symboleiddio atgyfodiad
Crist.
Photo courtesy of mr.bologna (@flickr.com) - granted under creative commons licence – attribution

6.

Yr Almaen
Yn yr Almaen mae
ganddynt goed wyau
Pasg o'r enw
'Ostereierbaum'.
Mae wyau sydd wedi'u
haddurno yn cael eu
hongian o
ganghennau'r goeden.
Photo courtesy of waitscm (@flickr.com) - granted under creative commons licence – attribution

7.

Sbaen
Mae plant yn dod â dail palmwydd i'r
eglwys ar ddydd Sul y Blodau. Mae
merched yn addurno eu canghennau
gyda tinsel a losin.
Ar Ddydd Mercher Lludw rhoddir croes
o ludw ar dalcennau pobl i
ymddiheuro i Dduw am y pethau
drwg maen nhw wedi'i wneud.
Yn Ne Sbaen mae'r bechgyn yn taro
drymiau yn ystod gorymdeithiau'r
eglwys.
Mi fydd Sbaen yn cynnal
gorymdeithiau gyda bandiau pres a
fflotiau yn dangos darluniau stori'r
Pasg. Mae'r gorymdeithiau yn cael eu
dilyn gan bobl wedi'i gorchuddio a
chlogwyn sy'n gofyn am faddeuant
gan Dduw.
Ar Ddydd Iau'r Gofid bydd dynion yn
gwisgo fel sgerbydau ac yn
perfformio'r ddawns marwolaeth i
symboleiddio marwolaeth Iesu.
Photo courtesy of waitscm (@flickr.com) - granted under creative commons licence – attribution

8.

UDA
Bob blwyddyn, yn y Tŷ Gwyn yn
Washington DC, UDA, mae yna
achlysur rholio wyau Pasg ar y lawnt
y Prif Lywydd.
Mae plant yn gwthio wyau sydd
wedi'u haddurno drwy'r glaswellt
gyda llwyau â dolennau hir.
Yn flynyddoedd diweddar, mae enwogion wedi troi i fyny i ddiddanu'r rholeri!
Photo courtesy of creativedc (@flickr.com) - granted under creative commons licence – attribution

9.

Yr Eidal
Yn Rhufain, Yr Eidal, mae'r Pab yn
golchi traed deuddeg o ddynion i ailgreu hanes y Swper Olaf ar Ddydd
Iau'r Gofid.
Ar ddydd Gwener y Groglith mae
llawer o bobl yn ymgynnull ym
Masilica Sant Pedr i wrando ar
wasanaeth y Pab am 5yh. Mae'r Pab
yn cymryd taith gerdded, a oleuwyd
gan ganhwyllau, i gofio Crist.
Photo courtesy of Averain (@flickr.com) - granted under creative commons licence – attribution

10.

Groeg
Mae gŵyl y Pasg yn dechrau cyn y Pasg.
Ar Ddydd Iau y Pasg mae bara yn cael ei
bobi a wyau yn cael eu lliwio yn goch fel
symbol o waed Crist.
Ar Ddydd Sadwrn Sanctaidd bydd pobl yn
mynd i wasanaethau canol nos yn yr
Eglwysi. Mi fydd pawb yn dod â
channwyll diolau er mwyn ei gynnu o
Fflamau Sanctaidd yr Eglwysi.
Bydd ffrindiau a theuluoedd yn dod at ei
gilydd i fwyta cinio rhost neu bryd o fwyd
arbennig ar Sul y Pasg.
Photo courtesy of Julio.garciah (@flickr.com) - granted under creative commons licence – attribution
English     Русский Правила